Gwasanaeth talu diogel ar gyfer cofrestru awtomatig

Croeso i'r gwasanaeth taliadau diogel cofrestru awtomatig ar y Rhyngrwyd. Cewch chi dalu eich cosb gan ddefnyddio'r safle diogel hwn. Yr ydym yn derbyn y cardiau debyd a chredyd canlynol; MasterCard, Visa, Visa Electron, ac Maestro.

Sylwer y bydd unrhyw swm a delir yn cael ei ddyrannu yn nhrefn yr hysbysiadau a gyhoeddwyd er enghraifft caiff arian ei ddyrannu yn erbyn Hysbysiad Cosb Benodedig yn gyntaf, wedyn yn erbyn Hysbysiad Cosb Gynyddol (os ydych wedi derbyn hysbysiadau cosb eraill, bydd yn rhaid i chi dalu'r rhain ar wahân.)


Gwybodaeth diogelwch(wedi'i leoli islaw'r wybodaeth diogelwch

Diogelir pob taliad ar-lein gyda cherdyn gan Haenen Soced Diogel(SSL)gyda hyd allwedd amgryptio o 128 bid,sef y lefel uchaf sydd ar gael yn fasnachol.Caiff manylion eich cerdyn talu eu prosesu'n uniongyrchol gan sefydliad rheoli taliad pwrpasol,prif ddarparwr y gwasanaeth sicrhau taliadau ar-lein i asiantaethau?r Llywodraeth,ni chânt eu casglu ac nid ydynt yn hygyrch gan y rheoleiddiwr pensiynau.Caiff ateb rheoli taliadau ar-lein y sefydliad ei asesu ar gyfer diogelwch yn annibynnol ac yn drylwyr,a?i ardystio gan Visa a MasterCard fel prosesydd talu lefel 1 taliad Safon Diogelwch Data y Diwydiant Cardiau Talu(PCI DSS).Mae rhagor o wybodaeth am y safon diogelwch cardiau talu hon ar gael yn: PCI Security Standard



Gwybodaeth Diogelu Data

Mae'r Rheolydd Pensiynau ('TPR') yn rheolydd data at ddibenion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ('GDPR') a Deddf Diogelu Data 2018. Byddwn yn prosesu eich data personol yn unol ag unrhyw un o'n swyddogaethau a'n hamcanion statudol.

Bydd y manylion talu a ddarperir yn cael eu defnyddio i brosesu taliad unrhyw ddirwyon neu gosbau sy'n ddyledus gennych y mae'r TPR wedi eu codi arnoch chi neu'ch sefydliad. Pan fyddwch yn rhoi eich data personol i ni drwy ganiatâd, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg gan ddefnyddio'r manylion isod. Pan fyddwch yn darparu data personol unigolyn arall, rydym yn gofyn i chi sicrhau bod gennych y caniatâd neu'r awdurdod angenrheidiol i wneud hynny.

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi ag adrannau eraill y llywodraeth neu gyrff cyhoeddus ond nid cyn cynnal asesiad effaith diogelu data er mwyn sicrhau bod eich hawliau yn cael eu diogelu. Nid ydym yn gwerthu, yn rhannu nac yn cyflenwi data personol at ddibenion masnachol.

Byddwn ond yn storio eich data personol cyhyd ag y bydd amserlen gadw TPR yn ei ganiatáu. Yn ystod yr amser hwn, efallai y gallwch chi arfer rhai hawliau yng nghyswllt eich data personol fel yr hawl i gael mynediad, gwrthwynebu a chludo data. Os ydych chi'n teimlo ein bod wedi ymdrin â'ch data personol mewn modd sy'n anghyson â'ch hawliau, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ('ICO').

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y datganiad preifatrwydd hwn neu sut rydym yn ymdrin â'ch data personol cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data ('DPO') drwy e-bost yn dpa@tpr.gov.uk neu gallwch ysgrifennu atom yn Napier House, Trafalgar Place, Brighton, BN1 4DW. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio, ei gadw'n ddiogel a'ch hawliau drwy ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd.


Angen help?

Help a gwybodaeth bellach am eich datganiad cydymffurfio:

Cysylltwch â ni

Os byddwch chi’n cael unrhyw drafferth wrth lenwi eich datganiad cydymffurfio ar-lein, mae croeso i chi gysylltu â ni

Ffôn: 0345 600 2475

CandE@autoenrol.tpr.gov.uk